Copyright © Ysgol Y Gader
Ysgol gyfun ddwyieithog ar gyfer disgyblion 11-16 oed yw Ysgol Y Gader sydd yn gwasanaethu
ardal Dolgellau a'r cyffiniau yn Ne Meirionnydd. Sefydlwyd Ysgol Ramadeg i fechgyn
yn Nolgellau yn 1665, ac fe barhaodd y drefn ramadeg gyda darpariaeth breswyl hyd
1962 pan sefydlwyd y drefn gyfun bresennol a chroesawyd merched i'r ysgol, gan gynnwys
merched o hen ysgol Dr. Williams. Mae gan yr ysgol draddodiad hir o lwyddiant academaidd,ac
yr ydym yn rhoi gwerth mawr ar ddatblygiad cymdeithasol ein disgyblion. Ymfalchiwn
ein bod yn ysgol hapus, gyfeillgar a chroesawgar. Yn y tudalennau canlynol mae gwybodaeth
ar gyfer disgyblion, rhieni, darpar rieni ac unrhyw un arall sydd yn dymuno cael
blas o'r ysgol. Byddwn yn falch o dderbyn unrhyw ymholiadau pellach neu i drefnu
i chi ymewld a'r ysgol.
Yn gywir,
Peter Maddocks
Ysgol Y Gader is a comprehensive bilingual school for pupils aged 11-16 which serves
Dolgellau and the surrounding area in South Meirionnydd. A boys’ grammar school was
founded in Dolgellau in 1665 and this system continued with boarding facilities until
1962, when the present comprehensive system was introduced which welcomed girls,
including girls from the old Dr. Williams school. The school has a long tradition
of academic success and we place strong emphasis on the social development of our
pupils. We take pride in that we are a happy, friendly and welcoming school. The
following pages contain information for pupils, prospective parents and anybody else
who wants an overview of the school. We welcome any further enquiries and are happy
to arrange for you to visit the school.
Yours sincerely,
Peter Maddocks